Gwyl Plant Gwent



Gwyl Plant Morgannwg



Gwyl Plant Cymru



Dyddiadau'r Gwyliau



Dawnsiau i 2020



Gwisg



Galeri



Adnoddau



Cysylltu a ni



Cysylltiadau



Adref

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Gwyl Plant Gwent

Dechreuwyd yr Wyl hon o ddawnsio gwerin Cymreig i blant gan gwmni Gwerinwyr Gwent yn 1981 gan ddechrau ag wyth ysgol yn cymryd rhan yn wreiddiol, ond erbyn heddiw mae lawer o ysgolion yn cymryd rhan yn flynyddol. 
Mae’r Wyl yn ddi-gystadleuol ac yn agored i unrhyw fudiad ieuenctyd yn ogystal ag ysgolion.

Cynhaliwyd y Gwyliau cyntaf yn Sgwar Gwent, Cwmbran. Wrth i nifer y plant fu’n cymryd rhan gynyddu dros y blynyddoedd, datblygodd Gwyl Plant Gwent i fod yn ddwy Wyl, gyda rhai yn y bore ac ysgolion eraill yn dawnsio’n y prynhawn.   Wrth i nifer y cyfranogwyr gynyddu ychwanegwyd dwy Wyl arall i’r rhaglen flynyddol yng nghanol tref Glyn Ebwy. Tyfodd yn rhy fawr i Lyn Ebwy a symudodd y rhan yma o’r Wyl i Abertileri. Parhaodd tyfiant a phoblogrwydd yr Wyl gan ein gorfodi ni i ychwanegu Y Fenni a Chasnewydd fel safleoedd newydd. Bob blwyddyn mae ysgolion newydd yn  cofrestru er mwyn cymryd rhan yn yr Wyl.

Cwmbran

Casnewydd

 

 

 

 

 

 


Os byddwch yn dod ar draws ein dawnsio gwerin, yna mynnwch aros i flasu’r hwyl a’r miri ymysg y plant wrth iddynt ddawnsio’n eu gwisgoedd lliwgar Cymreig.
  Mae’n amlwg  fod y plant yn cael llawenydd dibendraw wrth berfformio’r dawnsiau maent wedi eu dysgu yn ystod y flwyddyn.    

Bob Haf, mae Pwyllgor Gwyl Plant Gwent yn penderfynu’r deuddeg dawns benodedig ar gyfer yr Wyl Haf nesaf. Cyhoeddir cyfarwyddiadau hyfforddiant ar y dawnsiau, yn Saesneg ac yn Gymraeg. Mae’r athrawon hefyd yn cael grynno ddisg o gerddoriaeth addas ar gyfer pob dawns, ynghyd a DVD o ddawnswyr yn cerdded a dehongli pob dawns yn ol y cyfarwyddiadau, gan orffen gydag engraifft o’r ddawns yn cael ei pherfformio gyda’r alaw benodedig. Cynhelir cyrsiau hyfforddiant i’r athrawon i’w paratoi ar gyfer yr Wyl Haf.

Os ydych am ragor o fanylion am Gwyl Plant Gwent neu’r pecynnau hyfforddiant (sydd ar gael i unrhyw un a diddordeb), estynnwn groeso i chi gysylltu ag Ysgrifennyddes Gwyl Plant Gwent.

Ei henw a’i chyfeiriad yw:-Mrs. Dawn Webster, Greenacres, Broadstreet Common, Trefonnen, Casnewydd NP18 2AZ